Am y comic hinsawdd
Cydweithwyr
Aelodau tîm OPTIC yw: Dr Merryn Thomas, Dr Aled Singleton, Dr Aelwyn Williams, Dr Carol Maddock, Dr Deborah Morgan, yr Athro Charles Musselwhite, yr Athro Tavi Murray a’r darlunydd Laura Sorvala. Mae’r Grŵp Cynghori’n cynnwys cynrychiolwyr dysgu gydol oes, ymarferwyr creadigol, gwirfoddolwyr, elusennau, awdurdodau lleol a chyrff statudol.
Diolch yn wresog...
...i’r cymunedau roedd gennym y fraint o weithio gyda nhw, gan gynnwys Cartref Preswyl Newton Grange, Ysgol Gynradd Ystumllwynarth, Women4Resources, YMCA Hirwaun a Chymdeithas Gymunedol Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Castell-nedd Port Talbot. Hoffem ddiolch hefyd i’n grŵp cynghori am arweiniad drwy gydol y prosiect, ac i’n cyllidwyr.
Ariannwyd OPTIC gan gronfa APPROACH Prifysgol Stirling (Ageing and Place: Pandemic Recovery and Action on Climate Change), fel rhan o raglen Ymchwil Gymdeithasol, Ymddygiadol a Dylunio UKRI (Ymchwil ac Arloesi yn y DU). Fe’i cefnogwyd gan y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR, Prifysgol Abertawe) a darparwyd y cyfarpar gan Sefydliad Awen. Derbyniwyd cyllid pellach gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) drwy Brifysgol Abertawe.
Comic yr Hinsawdd
Nod OPTIC yw deall canfyddiadau pobl hŷn a phobl iau o newid yn yr hinsawdd, yr hyn maent yn ei ddychmygu amdano a’u hymddygiadau yn y lleoedd sy’n bwysig iddynt. Yn ystod gwanwyn 2023, buom yn cynnal gweithdai creadigol gyda 66 o bobl yn ne Cymru: ar-lein, ar stryd drefol brysur, mewn clwb ieuenctid yn y cymoedd, mewn cartref preswyl ac ysgol gynradd, gyda grŵp cerdded yr arfordir a theulu fferm. Mae’r comic hwn yn rhannu eu straeon.
Trowch i dudalennau 21-24 i ddysgu mwy am ddulliau ein gweithdai a sut cafodd y comic ei greu. Ar dudalennau 25-29, gallwch chi gymryd rhan drwy chwarae gêm dis OPTIC, lliwio stribed comic a chreu eich comic eich hun.
Mae rhagor o ganfyddiadau’r prosiect, gan gynnwys canlyniadau arolwg, ar gael drwy e-bostio optic@abertawe.ac.uk. Ein gobaith yw y bydd Comic yr Hinsawdd yn eich ysbrydoli i feddwl, sgwrsio a gweithredu, a byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.